
Priodasau
Plas Isaf yw’r lleoliad perffaith i ddathlu eich diwrnod arbennig. Sylweddolwn mae diwrnod eich priodas yw diwrnod mwyaf cyffrous eich bywyd, ac un sy’n galw am gynllunio a threfnu gofalus iawn. Yma ym Mhlas Isaf fe wnawn ein gorau glas i’ch cynghori a’ch cynorthwyo chi gyda’ch holl anghenion unigol.
Cliciwch yma os hoffwch weld oriel o luniau.
Rydym yn fwy na bodlon teilwra eich diwrnod i gyd-fynd â’ch gofynion chi. Er mwyn gwneud y diwrnod yn un arbennig a chyflawn, cynigiwn y ’sgubor a’r gerddi at eich defnydd chi a’ch gwesteion yn unig, ac os ydych chi’n penderfynu cynnal eich priodas yma cewch ddefnyddio’r ystafell wely briodasol gyda gwely pedwar postyn am ddim ar noson eich priodas. Mae ein gerddi aeddfed yn darparu lleoliad delfrydol i dynnu lluniau, yn ogystal â chynnig digon o le i’ch gwesteion ymlacio a sgwrsio gyda ffrindiau. Gall parau ddewis cael eu diod croesawu yn yr ardd, cyn mynd i mewn i’r ’sgubor.
Gan ein bod yn fusnes teuluol bach gallwn gynnig yr hyblygrwydd hwn i chi a threfnu’r diwrnod i fodloni eich dymuniadau personol. Ein nod yw gwneud eich trefniadau priodas mor ddiffwdan a phersonol ag y bo modd.


