
Cyfarfodydd a Chynadleddau

Plas Isaf yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal cyfarfodydd, cynadleddau a diwrnodau hyfforddiant. Mae’r ’Sgubor yn llawn naws a chymeriad, ac mae’r lleoliad heddychlon yn cynnig tawelwch, a phreifatrwydd llwyr wrth gwrs. Mae’n berffaith ar gyfer cyfarfodydd bach yn ogystal â rhai mawr. Mae mynediad a chyfleusterau i’r anabl drwy’r adeilad cyfan. Mae digonedd o le parcio hefyd.
Gellir trafod eich gofynion penodol chi ac fe wnawn ein gorau glas i ddarparu yn union beth sydd ei angen arnoch er mwyn i chi fedru cynnal eich cyfarfod neu’ch cynhadledd yn ddidrafferth.


