
Map a Chyfeiriadau
O Langollen ar hyd yr A5
Os ydych chi’n teithio o Langollen, ewch ar yr A5 tua’r gorllewin, drwy Gorwen. Wedi i chi fynd drwy Gorwen a chroesi’r Afon Dyfrdwy ewch ymlaen at y goleuadau traffig (lle mae ffordd Rhuthun yn ymuno gyda’r A5) ac yna’n syth ymlaen heibio Siop Fferm Rhug (ar y chwith). Trowch i’r chwith yn y troad nesaf, ar ôl Siop Fferm Rhug, i gyfeiriad Cynwyd. Plas Isaf yw’r lle cyntaf ar y dde. Os ydych chi’n dal ar yr A5 ac yn cyrraedd set arall o oleuadau traffig rydych chi wedi mynd yn rhy bell.
O Fetws y Coed ar hyd yr A5
Os ydych chi’n teithio o gyfeiriad Betws y Coed, ewch ar yr A5 tua’r dwyrain i gyfeiriad Llangollen. Pan ddowch chi at y goleuadau traffig a’r troad i’r Bala, arhoswch ar yr A5. Tua hanner milltir o’r goleuadau traffig trowch i’r dde yn y troad nesaf, i gyfeiriad Cynwyd. Plas Isaf yw’r lle cyntaf ar y dde. Os ydych chi’n mynd heibio Siop Fferm Rhug yna rydych chi wedi mynd yn rhy bell.
O'r Bala ar hyd yr A494
Os ydych chi’n teithio o’r Bala, ewch ar yr A494 i’r gyffordd gyda’r A5, yna troi i’r dde yn y goleuadau traffig. Mae darn o ffordd syth ar ôl y goleuadau traffig. Tua hanner milltir o’r goleuadau traffig trowch i’r dde yn y troad nesaf, i gyfeiriad Cynwyd. Plas Isaf yw’r lle cyntaf ar y dde. Os ydych chi’n mynd heibio Siop Fferm Rhug yna rydych chi wedi mynd yn rhy bell.
O Ruthun ar hyd yr A494
Os ydych chi’n teithio o Ruthun, ewch ar yr A494 i’r gyffordd gyda’r A5 a throi i’r dde yn y goleuadau traffig. Ewch ymlaen ar yr A5 heibio Siop Fferm Rhug (ar y chwith). Trowch i’r chwith yn y troad nesaf, ar ôl Siop Fferm Rhug, i gyfeiriad Cynwyd. Plas Isaf yw’r lle cyntaf ar y dde. Os ydych chi’n dal ar yr A5 ac yn cyrraedd set arall o oleuadau traffig rydych chi wedi mynd yn rhy bell.
Os hoffech chi gael cyfarwyddiadau manylach, gallech ddefnyddio’r wefan AA Routefinder, gan nodi ein cod post (LL21 0EW).


