
Seremonïau Sifil
Mae Plas Isaf wedi’i drwyddedu i gynnal priodasau sifil a phartneriaethau sifil.

Y Parlwr
Mae gennym ni drwydded i hyd at 30 o westeion yn ein parlwr ym Mhlas Isaf. Mae hon yn ystafell fawr, gain, llawn golau naturiol, sy’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno cael priodas fechan, ddiddos.
Y 'Sgubor
Mae gennym ni drwydded i gynnal seremonïau yn y ’sgubor hefyd, a chan fod y ’sgubor yn un eang, cynllun agored, gallwn gynnal seremonïau gyda rhwng 20 a 180 o westeion. Mae hwn yn ddewis poblogaidd iawn, sy’n cynnig rhamant a harddwch priodas ffurfiol mewn awyrgylch mor unigryw a thrawiadol.
Cysylltu gyda’r Cofrestrydd
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch gyda’r Cofrestrydd yn Swyddfa Gofrestru Sir Ddinbych, Rhuthun. Ei henw yw Mrs Nerys Ellis a’i rhif ffôn yw 01824 706174.


