
Llety
Mae pob un o’n hystafelloedd gwely wedi’u dylunio unigol, gyda dodrefn sy’n adlewyrchu cymeriad a hanes Sioraidd y ffermdy, ynghyd â’r ffabrigau gorau. Mae hyn yn cynnig y cyfuniad perffaith o ysblander a chyfforddusrwydd.
Mae’r ystafell briodasol yn cynnwys gwely pedwar postyn trawiadol, ac mae’r ystafelloedd eraill yn cynnwys un ai gwely maint brenin neu ddau wely sengl. Ceir golygfeydd rhagorol o Ddyffryn Dyfrdwy a gerddi aeddfed Plas Isaf o’r ystafelloedd hyn.
Gweinir brecwast poeth Cymreig llawn yn y 'sgubor drannoeth, sy’n gyfle gwych i sgwrsio a hel atgofion am uchafbwyntiau’r diwrnod blaenorol.



