Cefndir Plas Isaf
Fferm deuluol organig yw Plas Isaf efo 540 hectar o dir, a bu yn y teulu ers dechrau’r 1950au. Mae’r fferm gyfan yn rhan o gynllun amgylcheddol sy’n gwarchod cynefinoedd a choedwigoedd.
Mae’r ffermdy yn faenordy rhestredig Gradd II sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg. Fe’i lleolir mewn gerddi teras wedi’u tirlunio. Mae’r ffermdy’n cynnwys ystafelloedd gwely mawr, wedi’u dodrefnu yn gydnaws â chyfnod yr adeilad.
Yn 2005 penderfynodd y teulu arallgyfeirio ar ôl sylwi ar fwlch yn y farchnad ar gyfer lleoliad a allai gynnig pecynnau priodas unigryw, cynadleddau a phartion. Roeddynt o’r farn mai’r ’sgubor wreiddiol yn y buarth, gyda’i thrawstiau derw a lloriau llechen, oedd y lleoliad delfrydol. Defnyddiwyd y ’sgubor, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, at nifer o ddibenion dros y blynyddoedd. Bellach cafodd ei adfer i’w odidogrwydd gwreiddiol ac mae’n cynnig lleoliad rhagorol ac unigryw ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau.
Plas Isaf yw’r man delfrydol i ddianc rhag rhuthr bywyd bob dydd ac ymlacio yng nghefn gwlad godidog Cymru. Bydd y busnes teuluol hwn yn rhoi bob sylw i’ch gofynion chi, p’un ai ydych chi’n trefnu parti i’r teulu, cyfarfod. digwyddiad corfforaethol neu ddiwrnod priodas arbennig iawn. Mae’r teulu’n ymfalchïo eu bod yn cydweithio’n agos gyda’u cwsmeriaid, gan rannu eu profiad helaeth yn y maes hwn. Gyda chymorth eu tîm o staff ymroddgar gallant ddarparu gwasanaeth personol a hyblyg, a chyfleusterau at eich defnydd chi yn unig.


